Ymateb gan Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru

Tystiolaeth wedi’i gyflwyno gan Sasha Davies, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru  

Cefndir 

Sefydlwyd Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru yn wreiddiol yn 2013 ac mae'n dwyn ynghyd cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant Addysg Bellach, Dysgu Seiliedig ar Waith ac Addysg Uwch, y Trydydd Sector, Awdurdodau Lleol, DWP a Gyrfa Cymru. Fe'i cydnabuwyd fel ffrwd gwaith Sgiliau a Chyflogaeth Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru er mwyn hysbysu a gyrru'r agenda sgiliau yn y Gogledd, ac yn ddiweddarach, fe'i cydnabuwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) fel Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol (y Bartneriaeth).

Fe wnaeth Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru adolygu ei strwythur llywodraethu yn 2017 er mwyn sicrhau ei bod yn canolbwyntio ar gyflogwyr ac er mwyn sicrhau ei bod yn cyd-fynd yn agosach ag anghenion sgiliau cyflogwyr y rhanbarth. Penodwyd cadeirydd o'r sector preifat, Horizon, yn 2017 ac ehangwyd aelodaeth cyflogwyr gyda chynrychiolaeth o'r sectorau allweddol a thwf.  

Mae'r Bartneriaeth yn un wirfoddol sy'n gweithio gyda chorff cyfrifo cytûn (Cyngor Gwynedd) sy'n endid cyfreithiol er mwyn gallu derbyn a chyfrifo am arian cyhoeddus.

Ydy’r data a’r dystiolaeth sy’n cael eu defnyddio gan y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn amserol, yn ddilys ac yn ddibynadwy? A fu unrhyw broblemau?

Mae'r Bartneriaeth yn y Gogledd yn casglu ei data gan nifer o ffynonellau dibynadwy, sy'n cynnwys ymchwil meintiol ac ansoddol.  

Prif ffynonellau data'r Bartneriaeth yn y Gogledd yw data a gwybodaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), Arolygon Poblogaeth Blynyddol a'r Business Register and Employment Survey (BRES). Mae'r ffynonellau hyn yn ddibynadwy, ond mae problem gydag amseriad derbyn y data yng nghyswllt y cylch o gynhyrchu cynlluniau sgiliau blynyddol, ac mewn rhai achosion gall y data fod wedi'i ddyddio gan ychydig fisoedd. Hefyd, mae rhai o'r ffynonellau hyn ar lefel Cymru gyfan, nad yw'n dangos y sefyllfa'n ddigonol ar lefel ranbarthol.

Mae rhai partneriaid y Bartneriaeth yn defnyddio'r teclyn cynaeafu data, EMSI, sy'n rhoi ffynonellau diweddar a dibynadwy o wybodaeth i helpu gyda'u cynllunio. Yn benodol, mae colegau AB a Gyrfa Cymru yn defnyddio'r teclyn hwn ac mae trafodaethau wedi'u cynnal gyda Llywodraeth Cymru ynghylch Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn buddsoddi yn y teclyn hwn a fydd yn cryfhau ein data ymhellach. 

Yn ogystal â'r data gwaelodlin a ddarperir, mae'r Bartneriaeth yn y Gogledd yn defnyddio dadansoddiad data partneriaid yn rheolaidd ymhlith darparwyr yn y Gogledd a'r ardal drawsffiniol sy'n cynnwys data gweithlu'r CITB, Data Consortiwm Addysg Rhanbarthol GwE, Arolwg Cyflogwyr Chwarterol Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru, data Gwiriad Gyrfa gan Gyrfa Cymru ac arolygon busnes eraill a gynhyrchir ar lefel ranbarthol. 

Yn ogystal, mae'r Bartneriaeth yn casglu gwybodaeth drwy adborth a chyfarfodydd gyda grwpiau o gyflogwyr a rhanddeiliaid eraill.

Eleni, am y tro cyntaf, bydd y Bartneriaeth yn y Gogledd yn ymgymryd ag Arolwg Sgiliau a gaiff ei rannu gyda'r holl bartneriaid ac yn ehangach er mwyn derbyn gwybodaeth sylfaenol gan ddiwydiant / y sector preifat. Mae hyn yn rhan o'n fframwaith newydd i ymgysylltu â chyflogwyr i gryfhau ein data a sicrhau ei fod yn ddiweddar.

Pa mor dda y mae’r partneriaethau’n ymgysylltu â barn pobl nad ydynt yn eistedd ar y byrddau partneriaeth, ac yn ei hystyried; a pha mor dda maen nhw’n ystyried barn y darparwyr sgiliau eu hunain?

Mae'r Bartneriaeth yn y Gogledd wedi sefydlu cysylltiadau gyda nifer o grwpiau clwstwr o gyflogwyr o fewn y rhanbarth, ac mae wedi defnyddio sail aelodaeth ehangach ein sefydliadau partner, sy'n rhoi mynediad i ni i'n heconomïau gwledig a threfol sylweddol. Rydym yn gwerthfawrogi mewnbwn a chyfraniad cyrff sy'n cynrychioli cyflogwyr megis yr FSB, Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy, Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru ac rydym yn ymgysylltu â nhw'n rheolaidd y tu allan i gyfarfodydd y Bartneriaeth. 

Mae mynediad i'r rhwydweithiau hyn yn caniatáu i ni ymgysylltu'n uniongyrchol gyda chwmnïau ledled y Gogledd, o entrepreneuriaid ar eu pennau eu hunain i fusnesau micro, i Fusnesau Bach a Chanolig i'r 60,000 o fusnesau cofrestredig ledled y Gogledd i gefnogi a dylanwadu'r gwaith o gynllunio cwricwlwm gan bartneriaid, ar y cyd.

Fodd bynnag, wrth ymgymryd asesiad mewnol o waith y Bartneriaeth yn y misoedd diwethaf, rydym wedi adnabod yr angen i atgyfnerthu ein cyswllt gyda cyflogwyr, ac yn bwysicach, i sicrhau bod ein Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth yn ymateb i’r angen a’r bylchau sy’n cael eu hadnabod gan ddiwydiant yng Ngogledd Cymru. O ganlyniad, rydym wedi cynhyrchu fframwaith cyswllt cyflogwyr/ diwydiant i roi mwy o eglurder ar sut rydym yn cysylltu a chynnwys gymaint o gyflogwyr/ diwydiant a phosibl. 

Law yn llaw a hyn, rydym yn adolygu aelodaeth y Bartneriaeth i gynnwys mwy o gynrychiolwyr o’r diwydiant, gan ein bod yn awyddus i gryfhau hyn.

Fel y nodwyd yn flaenorol, bydd y Bartneriaeth yn lansio arolwg sgiliau fel rhan o'n strategaeth ymgysylltu â chyflogwyr, a gaiff ei rannu'n eang ymhlith y sector busnes yn y Gogledd. Bydd yn sicrhau y gallwn gyrraedd cynulleidfa eang a derbyn gwybodaeth gan gyrff sydd â diddordeb. 

Wrth ddatblygu ein cynlluniau sgiliau, rydym yn cynnal gweithdai adborth ac ymgynghorol eang sy'n targedu nifer o sefydliadau eraill i gynnwys grwpiau clwstwr diwydiant, dysgu seiliedig ar waith a darparwyr preifat, darparwyr Addysg cyn-16 gan gynnwys GwE, Prifathrawon ac arweinwyr Cwricwlwm a darparwyr ôl-16. 

Yn ogystal, rydym yn mynychu digwyddiadau busnes a digwyddiadau gyrfa yn rheolaidd lle'r ydym yn ffurfio cysylltiadau gyda busnesau, sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith. 

Yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid ledled y rhanbarth, rydym yn parhau i ymgysylltu'n rheolaidd â darparwyr cenedlaethol megis Ymddiriedolaeth y Tywysog, Sefydliadau Gweithwyr a Sefydliadau Dysgu, Colegau Cymru, Cymwysterau Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru ac eraill i hyrwyddo problemau a datblygiadau'r Gogledd ar ran y Bartneriaeth.

Sut mae rolau allweddol yn ymwneud â’r fargen ddinesig a’r fargen dwf y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn dylanwadu ar eu cylch gwaith o ran Llywodraeth Cymru?

Fel is-grwp neilltuol o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (ers 2013), mae'r Bartneriaeth wedi bod yn chwarae rhan weithredol wrth gyfrannu at ddatblygu Gweledigaeth Twf a Chynllun Twf ar gyfer y Gogledd a'u cefnogi.

Mae data o'r Cynllun Sgiliau Rhanbarthol wedi rhoi'r dystiolaeth gyd-destunol uniongyrchol a oedd ei hangen i gadarnhau cynigion gwaelodlin ar gyfer y Cynllun Twf yn y Gogledd, ac mae ein partneriaid wedi cael eu cynnwys mewn datblygiadau a thrafodaethau i alinio anghenion y prosiectau yn y sector, y rhanbarth ac i'r dyfodol. 

Hefyd, mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi comisiynu'r Bartneriaeth i ystyried cwmpas prosiectau yn ymwneud â STEM, Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Cymru a Sgiliau Digidol ac Awtomeiddio a Chyflogadwyedd, sydd wedi'u cynnwys yn Nogfen Gynnig y Weledigaeth Twf (Hydref 2018). Mae cyfarfod rhwng y Bartneriaeth Sgiliau, y Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru wedi’i drefnu i drafod rhaglen Sgiliau a Chyflogaeth sy’n cynnwys Porth Gwybodaeth a Chyngor. 

Mae'r Bartneriaeth yn ymwybodol bod angen iddi esblygu a newid yng ngoleuni strwythur llywodraethu rhanbarthol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a'r Cynllun Twf, ac mae trafodaethau ar y gweill ar hyn o bryd yng nghyswllt materion llywodraethu'r Bartneriaeth. (Atodiad 1 – Map Llywodraethu).

Mae trafodaethau ar droed hefyd ar brotocol gweithio rhwng y bartneriaeth a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a fyddai'n nodi rolau a chyfrifoldebau eglur y Bartneriaeth yn y Gogledd a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a'r rhyngberthynas rhyngddynt i sicrhau cydlyniad effeithiol rhwng y Byrddau ac is-grwpiau eraill megis y Fforwm Arweinwyr Busnes (llais diwydiant y Cynllun Twf).  Hefyd, caiff Cylch Gorchwyl diwygiedig i'r Bwrdd ei ddrafftio. 

Rydym yn awyddus i gael arweiniad pellach Llywodraeth Cymru ar sut mae’r Bartneriaeth yn ffitio i strwythur llywodraethu’r Cynllun Twf. 


A yw’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn wir yn gallu ateb gofynion o ran sgiliau ar hyn o bryd a sgiliau yn y dyfodol yn eu rhanbarthau?  Beth am sgiliau arbenigol iawn y gall y galw amdanynt fod yn brin?

Mae'r Bartneriaeth yn y Gogledd wedi gweld cynnydd wrth adnabod galwadau sgiliau cyfredol ac i'r dyfodol yn y rhanbarth. Mae'r ddau sefydliad Addysg Bellach wedi gweithio'n dda gyda'r Bartneriaeth ac fel rhanbarth wrth gyrraedd y lefel optimwm o ddarpariaeth sy'n adlewyrchu cynlluniau'r Bartneriaeth a rhagamcanion y dyfodol sy'n ymateb i fuddsoddiadau ar raddfa fawr yn yr ardal. 

Dros y tair blynedd diwethaf, mae darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith hefyd wedi gwneud ymdrech fawr i ganolbwyntio ar y ddarpariaeth mewn dysgu seiliedig ar waith ar gyfer y sectorau blaenoriaeth ac, ar hyn o bryd, mae 90% o'r rhaglenni yn cyd-fynd â'r sectorau blaenoriaeth rhanbarthol. 

Yn gyffredinol, credwn ein bod yn medru adnabod y cyfeiriad a'r materion y mae pob un o'n sectorau allweddol a thwf yn eu codi yn yr ardal. Wrth weithio gyda chyrff diwydiant cenedlaethol megis ECITB, CITB a FMB Cymru ar gyfer Wylfa Newydd, fe wnaethom adnabod prinder o rolau a sgiliau mewn meysydd megis gosodwyr dur a sgaffaldwyr, a rolau ehangach megis gwaith coed, trydanwyr, gosodwyr briciau ac ati yn sgil dadleoli'r llafur. 

Fodd bynnag, mae sgiliau arbenigol yn profi i fod yn anos i'w hadnabod yn y tymor hwy, ond, rydym yn dechrau gweld arfer da yn dod i'r amlwg yn y rhanbarth lle mae'r Bartneriaeth wedi adnabod yr angen am ddarpariaeth sgil nad yw'n cael ei gynnig gan AB ar hyn o bryd.  Yn ddiweddar, rydym wedi gweld cyrsiau sgaffaldio yn cael eu cyflwyno yn y ddau goleg AB yn sgil galw ein cyflogwyr. Un neges sy'n dod i'r amlwg gan sectorau penodol yw'r angen am hyfforddiant byrrach, galwedigaethol yn hytrach na darpariaeth lawn amser. 

Ar hyn o bryd, mae'r Bartneriaeth yn hwyluso trafodaethau ar glystyrau cyflogwyr a darparwyr yn y rhanbarth yng nghyswllt cyfleoedd rhannu prentisiaethau yn yr ardaloedd hynny lle mae sgiliau arbenigol, lefelau isel o gyflogwyr neu niferoedd isel o ymgeiswyr ac anawsterau gyda recriwtio. 

A oes gan y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol wybodaeth a dealltwriaeth ddigonol o’r:

a)     economi sylfaenol, ac o anghenion y rhai a gyflogir ynddi?

Yn y Gogledd, rydym wedi adnabod ein tri sector allweddol, a pum sector twf, rydym wedi gweithio gyda'n partneriaid a chyrff sy'n cynrychioli diwydiant i gynnal baromedr o dueddiadau cyfredol ac i'r dyfodol ar gyfer datblygiadau sgiliau a chyflogaeth o fewn y sectorau hyn - gyda'i gilydd, mae nifer ohonynt yn ffurfio'r economi sylfaenol, sydd gyfystyr â 41% o'r boblogaeth gyfredol sy'n gweithio yn y Gogledd. 

Mae dau o'r sectorau twf yn ein cynlluniau sgiliau blynyddol yn cynnwys y Diwydiant Twristiaeth a Lletygarwch ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Rydym yn gweithio gyda cholegau AB i ddatblygu Canolfan Ragoriaeth Twristiaeth a Lletygarwch a chynllun cyfalaf twristiaeth sy'n rhan o'r Cynllun Twf ar gyfer Gogledd Cymru. Ei phrif nod fydd targedu'r gwaith o ddatblygu sgiliau yn y sector hwn yn yr economi. Yn ogystal, rydym wedi gweithio gydag Ardal Fenter Môn a Busnesau Twristiaeth ym Môn ar 'Taro Twristiaeth' sy'n adnodd addysgiadol i ysgolion cynradd hyrwyddo gyrfaoedd yn y sector twristiaeth.

Hefyd, mae'r Bartneriaeth yn y Gogledd wedi cefnogi a chydlynu gwaith y ddau Goleg AB wrth ddarparu addysg a hyfforddiant llawn amser a rhan amser yn y rhanbarth, i fynd i'r afael â meysydd yn seiliedig ar yr 'Economi Sylfaenol' drwy'r Gronfa Datblygu Sgiliau. 

b)     o’r galw am ddarpariaeth sgiliau drwy gyfrwng y Gymraeg?

Yn y Gogledd, mae gan 81% o fusnesau staff gyda sgiliau iaith Gymraeg, ac mae 57% o gyflogwyr yn ystyried bod staff gyda sgiliau iaith Gymraeg yn bwysig. O ganlyniad, rydym yn deall y galw a'r angen am ddarpariaeth sgiliau drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Gogledd Cymru yw'r rhanbarth cyntaf yng Nghymru i gyflawni a chyhoeddi dogfen bwrpasol 'Yr Iaith Gymraeg yng Ngweithlu Gogledd Cymru', sy'n dwyn ynghyd yr ystadegau diweddaraf ar y Gymraeg yn y gweithle, addysg, hyfforddiant, polisi Llywodraeth Cymru a chefnogaeth ranbarthol i'r Gymraeg fel sgil cyflogadwyedd. 

Ar hyn o bryd, mae'r Bartneriaeth yn gweithio drwy gynllun gweithredu cynhwysfawr yn sgil yr ymgynghoriad ar yr adroddiad a'i lansio ym mis Mai 2018 ac mae'n cyd-weithio'n agos â GwE a phartneriaid allweddol sy'n darparu hyfforddiant a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y rhanbarth. Mae'r dialog yn parhau gyda LlC am yr agenda hwn. 

A yw’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn cael digon o adnoddau i gyflawni eu rôl gynyddol?

Mae rôl y Bartneriaeth wedi tyfu ac esblygu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac rydym yn croesawu'r dylanwad cynyddol ar feysydd polisi allweddol. Fodd bynnag, caiff y Bartneriaeth ei hariannu drwy gontract blynyddol (£165k) gyda Llywodraeth Cymru, sy'n ariannu dwy swydd lawn amser ac un swydd ran amser. Os ydym am ddwysau ein hymdrechion o ran cyfathrebu a chysylltu gyda chyflogwyr a diwydiant, dylid rhoi ystyriaeth bellach i fwy adnoddau. 

Gan fod yr arian yn cael ei dderbyn ar sail tymor byr (blynyddol), mae hefyd yn golygu na all y Bartneriaeth edrych ar faterion tymor hwy.

Pe byddem yn gweld cynnydd mewn cyfrifoldebau, byddai angen ystyried ymhellach yr adnoddau a glustnodir i'r Bartneriaeth. 

A oes cydbwysedd priodol rhwng gwaith y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a’r farn ehangach ar y galw am sgiliau?

Prif yrrwr y Bartneriaeth yw sicrhau bod y rhanbarth yn cyflawni ar strategaeth a gyrwyr polisi LlC ar sgiliau lefel uwch (Lefel 3 ac uwch) ac adrodd ar sut mae hyn yn gweithio, neu ddim. 

Mae ein gwaith gyda chyflogwyr a diwydiant yn allweddol i sicrhau barn ehangach ar alwadau sgiliau yn y rhanbarth, a bellach mae diwydiannau yn y rhanbarth yn gweld y Bartneriaeth fel cerbyd allweddol wrth yrru'r newid hwn. 

Fodd bynnag, yn y Gogledd, nid darpariaeth yw'r broblem ond denu a hyrwyddo diwydiant i gael pobl ifanc i ymgymryd ag astudiaethau a phrentisiaethau yn y diwydiant. Mae AB wedi gweithio gyda'r Bartneriaeth a diwydiant i fuddsoddi mewn cyfleusterau newydd, a darpariaeth newydd i adlewyrchu'r galw, ond nid yw hyn yn bodloni'r galwadau o hyd. 

Un farn ehangach ar alw am sgiliau yw ystyried darparu dysgu cyn-16, a pha mor dda y mae hyn yn cyd-fynd ag anghenion a blaenoriaethau diwydiant. Mae nifer fawr o arolygon ac adroddiadau cyflogwyr yn nodi nad oes gan bobl ifanc sgiliau sylfaenol a sgiliau 'barod i weithio' ac mae hwn yn faes y mae'r Bartneriaeth yn awyddus iawn i gael dylanwad arno, gan ei fod yn fater sy'n codi dro ar ôl tro. 

Mae'r Rhwydwaith 14-19 a GwE ill dau yn aelodau o Bartneriaeth y Gogledd a byddem yn croesawu'r cyfle i weithio'n agosach gydag ysgolion, yn enwedig yng ngoleuni diwygio'r cwricwlwm a sicrhau dylanwad y gymuned fusnes a diwydiant ar y cwricwlwm newydd yng Nghymru. 

Os yw’r fath beth yn bod, sut mae tensiynau rhwng y galw am ddysgwyr / dilyniant dysgwyr yn cyd-fynd â chasgliadau’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a ffafriaeth Llywodraeth Cymru i ariannu sgiliau lefel uwch? 

Ceir tensiynau rhwng blaenoriaethau rhanbarthol a pholisi Llywodraeth Cymru. Y polisi a'r gyrrwr gan Lywodraeth Cymru yw cynyddu sgiliau lefel uwch ar Lefel 3 ac uwch. Er ein bod yn cytuno gyda'r angen i yrru sgiliau lefel uwch yn yr economi, ar lefel ymarferol, nid yw'r polisi bob amser yn cael ei adlewyrchu mewn galw am ddysgwyr / dilyniant dysgwyr a'r galw gan gyflogwyr ar gyfer Lefel 1-3. 

A yw’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru wedi gallu ysgogi newidiadau o ran darpariaeth sgiliau ‘ar lawr gwlad’ i adlewyrchu’r galw?

Mae partneriaid ledled y Gogledd eisoes wedi dechrau proses o newid ac ymateb i gynlluniau Sgiliau a Chyflogaeth blaenorol dros y tair blynedd ddiwethaf. Yr ymateb gan ddiwydiant a chyflogwyr yn y rhanbarth yw y gellir gweld y newidiadau, yn arbennig gyda phrentisiaethau. Mae hi'n deg nodi bod darpariaeth AB yn cyd-fynd â blaenoriaethau'r Bartneriaeth, a lle mae bylchau wedi bod, rydym wedi gweithio gydag AB i gau'r bylchau hynny. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys:

      Gwyddor Bywyd Lefel 3 newydd wedi'i ddechrau yn y Gogledd Ddwyrain ym mis Medi yn sgil y galw gan gyflogwyr yn yr ardal.

      Sefydlwyd partneriaeth dysgu seiliedig ar waith newydd rhwng AB rhanbarthol gyda Phrifysgol Glyndwr yn 2018 er mwyn cyflwyno hyfforddiant gweithgynhyrchu bwyd lefel uwch ledled y rhanbarth.

      Gweithio gyda'r cwmni rhyngwladol SIEMENS wrth adnabod sgiliau ehangach o fewn y sector gweithgynhyrchu a fydd eu hangen o ganlyniad i A.I. a datblygiadau parhaus ar draws Diwydiant 4.0 ar gyfer y Gogledd. 

Beth, yn gyffredinol, sy’n gweithio’n dda a pha dystiolaeth o lwyddiant a’i effaith sydd ar gael? 

Mae'r newid mewn ffocws i Bartneriaeth y Gogledd yn 2017, i sicrhau ei bod yn cyd-fynd â llais y diwydiant yn allweddol, ond, fel nodwyd eisoes, rydym yn awyddus i gryfhau hyn dros y misoedd nesaf.  Rydym yn parhau i arwain a hwyluso datblygiad mewn partneriaeth â'r holl ddarparwyr a chyflogwyr allweddol a'r cyrff sy'n cynrychioli diwydiant ledled y rhanbarth i sicrhau pontio rhwng anghenion diwydiant a'r ddarpariaeth.

Mae effaith tymor hwy y Bartneriaeth yn rhywbeth yr ydym yn awyddus i'w hystyried ymhellach, a byddem yn croesawu trafodaethau pellach gyda Llywodraeth Cymru ar y ffordd orau o fesur ein llwyddiant a'n heffaith. Hefyd, rydym yn ystyried argymhellion Graystone (2018) ar hyn o bryd ac rydym yn awyddus i wella gwneud penderfyniadau, bod yn agored, tryloywder ac atebolrwydd. 

A oes unrhyw agweddau ar y polisi nad ydynt yn gweithio’n dda? A fu unrhyw ganlyniadau anfwriadol, a pha welliannau y gellir eu gwneud? 

Fel y soniwyd uchod, byddai'r Bartneriaeth yn croesawu cylch gorchwyl ehangach i gynnwys darpariaeth ôl-16. Ar hyn o bryd, rydym yn medru dylanwadu ar ddarpariaeth AB a Phrentisiaethau yn y rhanbarth, ond nid yw hyn yn cynnwys edrych ar y darlun ôl-16 yn llawn sy'n cynnwys Lefel A ac Addysg Uwch. Yn ogystal, byddai'n fuddiol ystyried darpariaeth alwedigaethol cyn-16 a gyflwynir mewn ysgolion er mwyn ystyried y galwadau sgiliau ehangach.

Un mater arall yw bod y cylch cynllunio ar gyfer ein cynllun, fel y pennir gan LlC, yn flynyddol, ac wrth i un gael ei gwblhau, mae gwaith yn dechrau ar y nesaf. Nid yw hyn yn rhoi digon o amser i ni ddysgu gwersi ac nid yw wedi caniatáu digon o amser i ni ddadansoddi adborth wrth i ni symud i gylch cynllunio arall. O ganlyniad, ar hyn o bryd rydym yn edrych ar ddatblygu cynllun tair blynedd a fydd yn caniatáu i ni fesur effaith a llwyddiant, ond bydd hefyd yn cyd-fynd â'r Weledigaeth Twf ehangach i'r Gogledd.